Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 14 Hydref 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.37 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Rheolwyr Busnes y gallai'r Ddadl Fer a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 12 Tachwedd gael ei gohirio.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2014
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
4 Y Rheolau Sefydlog
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch diwygio Rheol Sefydlog 22.5. Mae'r llythyr yn amlinellu barn y Pwyllgor, sef y dylid caniatáu dirprwyo mewn achosion lle gall Aelod fod yn gysylltiedig â chŵyn er nad cŵyn benodol yn ei erbyn ef ydyw. Dylai'r Cynulliad gytuno ar yr 'aelod amgen' hwn ac ethol aelod parhaol y Pwyllgor ar yr un pryd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i dderbyn argymhelliad y Pwyllgor Safonau bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu diwygio.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno cynigion manwl i'r Rheolwyr Busnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.